Beth yw’r Ty Gwydr?


Mae’r Ty Gwydr/Greenhouse yn ganolfan gymuned annibynnol. Ei nod yw hyrwyddo, cefnogi a darparu cyfleusterau swyddfa a man cyfarfod ar gyfer grwpiau gwirfoddol, prosiectau cymunedol ac ymgyrchoedd lleol – mae bob amser yn agored i syniadau a mentrau newydd.


Beth yw ein hamcanion?


Sefydlwyd y Ty Gwydr/Greenhouse i ddarparu lle, defnyddiau ac adnoddau ariannol, a chymorth cyffredinol i unigolion a mudiadau sy'n gweithio i hyrwyddo’r canlynol:

• gwarchod a chadw’r amgylchedd
• gofal iechyd
• addysg gymunedol
• gwerthfawrogiad o’r celfyddydau
• datblygiad cymunedol