Sut rydyn ni'n gweithio?

Gwirfoddolwyr a fu'n rhedeg y Ty Gwydr erioed. Maen nhw'n hollbwysig i'r ganolfan - yn gweithio wrth y desg wybodaeth ac yn gwneud yr holl waith sydd ynghlwm wrth redeg canolfan wybodaeth ac adnoddau brysur o ddydd I ddydd. Ym mis Hydref y llynedd, penodwyd Cydlynydd cyflogedig diolch i grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae'r grant hon wedi'n galluogi i dalu costau i irfoddolwyr ac I dalu am hyfforddiant iddynt hefyd. Mae'n gyfle i'r Ty Gwydr ddatblygu a chychwyn prosiectau newydd.


Mae'r Ty Gwydr yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant ag iddo ddibenion elusennol. Mae ganddo fwrdd o 8 o Gyfarwyddwyr a etholir bob blwyddyn.


Gwneir y penderfyniadau o ddydd i ddydd gan Bwyllgor Rheoli sy'n cynnwys pobl sy'n defnyddio'r Ty Gwydr: gwirfoddolwyr, cynrychiolwyr grwpiau, aelodau a chyfarwyddwyr. Mae'r pwyllgor yn cyfarfod bob yn ail wythnos ac mae pawb sy'n ymwneud â'r Ty Gwydr yn cael eu hannog i ddod i'r cyfarfodydd ac i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.

Gweithio mewn Partneriaeth

Cychwynnodd y Ty Gwydr fel partneriaeth o grwpiau a ddaeth ynghyd i brynu adeilad gan fod angen lle a chyfleusterau arnynt. Rydym wedi parhau â'r traddodiad hwn trwy gydweithio i'n cefnogi'n gilydd yn gyffredinol ac ar brosiectau penodol.