Hanes
Daeth y Ty Gwydr i fod mewn cyfnod pan oedd angen cyfleusterau swyddfa a man
cyfarfod ar nifer o fudiadau gwirfoddol. Daethom o hyd i adeilad i’w brynu gyda’n
gilydd er mwyn rhannu costau a chyfleusterau. Gan fod prinder llefydd o’r fath yn yr
ardal, gwyddem y byddai grwpiau eraill yn defnyddio’r adeilad hefyd.
Byddai’r Ty Gwydr/Greenhouse yn fan lle gallai grwpiau ifanc dyfu.
Ers y dechrau ym 1982, mae dros 60 o grwpiau cymunedol, mudiadau a busnesau
bach lleol wedi elwa ar gyfleusterau’r Ty Gwydr. Yn eu plith mae grwpiau
amgylcheddol fel BTCV a Lonydd Glas Gwynedd, grwpiau menywod fel Cymorth i
Ferched, prosiectau iechyd fel y Fforwm Defnyddwyr Iechyd Meddwl a’r Ganolfan
Gwybodaeth Iechyd, grwpiau ymgyrchu fel y Llinell Lesbiaid a Chj ymdeithas yr Iaith
Gymraeg, a phrosiectau celfyddydol fel Syrcas Circus. Cynhyrchwyd cylchgronau a
newyddlenni yn y Ty Gwydr hefyd, a buom yn ganolfan ar gyfer prosiectau llety,
cyngor i’r digartref a phrosiectau galw-heibio, yn ogystal ag yn fan gweithio i
therapyddion meddygaeth amgen.
Rydym wedi rhagori ar ein disgwyliadau wrth i lu o grwpiau a phrosiectau sydd heb
lawer iawn o adnoddau gael y gefnogaeth angenrheidiol yma er mwyn iddynt dyfu a
symud allan i’r gymuned ehangach. Ceir rhestr lawn o grwpiau preswyl y Ty Gwydr,
o’r dechrau hyd yn awr, yng nghefn yr adroddiad hwn.