Y Ty Gwydr heddiw
Rydym yn dal i ffynnu fel canolfan gymunedol annibynnol sy’n darparu cyfleusterau swyddfa a man cyfarfod ar gyfer grwpiau gwirfoddol a chymunedol. Ceir adnoddau swyddfa a TG yn ogystal â gwasanaeth gwybodaeth a chyfeirio o dan ofal gwirfoddolwyr.
Mae'r Ty Gwydr yn un o’r ychydig ganolfannau galw-heibio agored sydd ar ôl ym
Mangor a'r cylch lle gall pobl fynd i chwilio am wybodaeth a chefnogaeth. Cynhelir
pob math o gyfarfodydd, dosbarthiadau a gwasanaethau cynghori galw-heibio yma.
Dyma rai o’r mudiadau sy’n cwrdd yma ar hyn o bryd: Bwdistiaid Bangor, Cyswllt
Gwaith (gwasanaeth galw-heibio ar gyfer pobl sy’n chwilio am waith), Tai Hafan
(cymdeithas dai sy’n helpu merched agored i niwed a’u plant), a grw^p ysgrifennu
Bangor Wordsmiths.
Y grwpiau preswyl yn y ganolfan ar hyn o bryd yw swyddfa ranbarthol FPA Cymru,
Tai Hafan, Hebffinia (cymdeithas gydweithredol cynllunio graffig a herddoriaeth),
Llinell Lesbiaid, Bish Bosh Trading Company, prosiect ffilmiau, a Gwobrau Mileniwm
Ieuenctid y Byd, prosiect cyfnewid traws-ddiwylliannol gyda gwirfoddolwyr o Nigeria,
De Affrica a’r DU, wedi’i drefnu ar y cyd gan y VSO a'r Prince’s Trust.
Yma, hefyd y mae canolfan grwp merched amlddiwylliannol Shekina sy’n darparu man cyfarfod, cefnogaeth, hyfforddiant a gwybodaeth i ferched a theuluoedd o leiafrifoedd ethnig sydd newydd symud i’r ardal. Yn neilltuol, mae’n rhoi lle diogel i ferched Moslemaidd gymdeithasu y tu allan i’r cartref. Bu dosbarthiadau’r gymdeithas Shekina mewn pob math o bynciau o gyhoeddi pen desg i iechyd a harddwch yn boblogaidd iawn. Dyma un ffordd o gael merched o dramor a merched lleol i ddod i nabod ei gilydd.
INSERT IMAGE