Digwyddiadau a Chyfarfodydd


Digwyddiadau Mis Ebrill:

Dydd Llun Ebrill 4ydd – Clwb Cyfrifiaduron Ty Gwydr - 7.00 yn stafell gyfarfod Ty Gwydr

Gwahoddiad yn mynd ar led i bawb sy'n dallt y dalltins am gyfrifiaduron ac a fyddai'n barod i ystyried helpu datrys problemau pobl eraill efo'u cyfrifiadur. Mae'r clwb yn agored i bawb sy'n cael trafferth efo'u cyfrifiadur, neu sydd am ddysgu/rhannu gwybodaeth am feddalwedd, caledwedd ayb. Cysylltwch ag Alex neu Coral os am ragor o fanylion. Rhaid i bawb o dan 16 oed ddod ag oedolyn efo nhw.

Dydd Sul Ebrill 10 & 17 – Cyfarfodydd Aml-Grefydd. Un Gwirionedd – Llawer o Lwybrau

Trafod a rhannu ffydd a chredoau. Siarad, bwyta, cerddoriaeth 6 – 9yh

Dydd Gwener Ebrill 22 – Arddangosfa Prosiect Celfyddydau a Chyfryngau Gweledol Ty Gwydr am bedair wythnos

Dydd Sadarn Ebrill 23 neu Mai 14 – Cwrs Cyflwyno Techneg Alexander 2-4yh Rhagor o wybodaeth? Cysylltwch â Chris Walker ar 01743 873847 Neu 07732 761157

Yn y Stafell Gyfarfod:

BOB DYDD LLUN:

Clwb Cyfrifiaduron yn dechrau bob nos Llun o Ebrill 4ydd ymlaen am 7.00yh

BOB DYDD MAWRTH:

Iachau Reiki 1 7.00 tan 10.00yh. Efo Roslyn Carter.

BOB DYDD MERCHER:

Myfyrdod a Meddwl Bwdïaidd Dosbarthiadau 7.30yh. Cysylltwch â 01492 541545

BOB DYDD IAU:

Wing Chun Kung Fu 7.00 - 9.00yh. Cysylltwch â 07729 428045

AIL DDYDD SUL Y MIS:

Gweithdai Crisialau 1.00 tan 4.00yh. Myfyrdod a defnyddio cerrig. Hunaniachau efo Roslyn

 

Digwyddiadau Rheolaidd y Stafell Iachau:

BOB DYDD MAWRTH A GWENER:

Iachau â Dwylo am ddim 1.30 - 4.30yh derbynnir cyfraniadau â diolch.. Cysylltwch â 07968 077234

BOB DYDD MERCHER:

Darlleniadau Tarot efo Zetti 10.00yb tan 3.00yh. Bwcio 07742 223947

BOB DYDD IAU:

Techneg Alexander efo Chris Walker. Cysylltwch â 07732 761157